Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee
|
|
Huw Lewis AC Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru
|
|
23 Hydref 2013 |
|
Annwyl Weinidog
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15
Hoffwn ddiolch i chi, y Dirprwy Weinidog, a'ch swyddogion am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes, a gynhaliwyd ar 17 Hydref, er mwyn cynorthwyo â'n gwaith craffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-15.
Fel y soniais yn ystod y cyfarfod, rydym yn ddiolchgar i chi am baratoi papur manwl ar y gyllideb ac am ymateb i'r llythyr a anfonais atoch, dyddiedig 5 Awst 2013, yn gofyn am wybodaeth ynghylch ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer gwariant ataliol a blaenoriaethu.
Mae'r gwaith craffu eleni wedi canolbwyntio'n bennaf ar flaenoriaethau'r gyllideb a gwerth am arian. Mae ein gwaith craffu wedi ystyried hefyd a yw'ch polisïau wedi cyfrannu at gyflawni eich tair thema drawsbynciol, sef swyddi a thwf, cyrhaeddiad addysgol, a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig.
Mae'r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion i chi eu hystyried ac ymateb iddynt.
Rydym hefyd yn anfon y llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio gwaith craffu strategol a chyffredinol y Pwyllgor hwnnw ar y gyllideb ddrafft. Bydd y llythyr hwn a'ch ateb chi yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.
Blaenoriaethu– addysg ôl-19 a dysgwyr sy'n fenywod
Rydym yn sylweddoli y bu'n rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd eleni i reoli'r 4.7% o ostyngiad gwirioneddol yn y gyllideb Addysg a Sgiliau. Cadarnhawyd yn y sesiwn dystiolaeth y bydd mwy o flaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl ifanc 16 i 18 oed ym maes addysg bellach nag i bobl 19 oed a throsodd, o safbwynt cyllid Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 1
A fyddech cystal â rhoi asesiad i ni o effaith eich cynigion yn y gyllideb ar nifer y myfyrwyr a nifer y cyrsiau yn achos pobl dros 19 oed?
Gan gofio y bydd y lefelau grant a'r trothwyon cymhwysedd yn cael eu rhewi ar gyfer holl grantiau cyllid myfyrwyr (er enghraifft, Grantiau Dysgu'r Cynulliad, grantiau wedi'u targedu a grantiau rhan-amser) o 2014-15 tan 2016-17, rydym yn bryderus y gallai hyn beri anfantais ddeublyg i ddysgwyr sy'n fenywod. Y rheswm am hyn yw mai menywod yw mwyafrif y dysgwyr yn gyffredinol, a menywod yw cyfran helaethaf y dysgwyr hŷn (19 oed a throsodd) hefyd. Caiff hyn ei gydnabod yn asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y newidiadau yn y ddarpariaeth addysg amser llawn argydraddoldeb.
Argymhelliad 2
Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i fonitro a gwerthuso effaith eich cynigion yn y gyllideb ar ddysgwyr dros 19 oed sy'n fenywod, a hoffem gael gwybodaeth fanwl gennych ynghylch sut yr ydych yn bwriadu cyflawni'r gwaith monitro a gwerthuso, a thros ba gyfnod.
Blaenoriaethu– addysg sgiliau ôl-19 a phrentisiaid sy'n fenywod
O ran cyllid ar gyfer prentisiaethau, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai cefnogaeth y dyfodol yn cael ei rhoi i feysydd sy'n flaenoriaeth, a rhestrodd rai sectorau nad ydynt yn flaenoriaeth, fel trin gwallt, harddwch, manwerthu a gweinyddu busnesau. Unwaith eto, menywod sydd amlycaf yn y sectorau hynny.
Argymhelliad 3
Rydym yn awyddus i ddeall yn well beth yw rhesymeg Llywodraeth Cymru dros flaenoriaethu cymorth ar gyfer rhai prentisiaethau. O ran y gostyngiad yn y cymorth ar gyfer prentisiaethau nad ydynt yn flaenoriaeth, rydym am ddeall yn well beth fydd effaith hynny ar fenywod yn benodol. Rydym hefyd am gael esboniad ynghylch sut y caiff yr arbedion eu hailfuddsoddi mewn meysydd eraill, a beth yw'r canlyniadau arfaethedig.
Gwerth am Arian – ad-drefnu addysg uwch
Nid oes cynnydd ar y gweill yng nghyllideb ddangosol addysg uwch ar gyfer 2014-15, ac rydym yn gwybod y bydd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i gyllido addysg uwch yn nes ymlaen y tymor hwn. Fe wnaethoch gytuno i roi gwybodaeth am y dadansoddiad o'r arbedion a gafwyd o ganlyniad i uno sefydliadau addysg uwch dros y deng mlynedd diwethaf.
Argymhelliad 4
Byddem yn falch o gael gwybodaeth fanwl am gostau'r polisi ad-drefnu addysg uwch dros y deng mlynedd diwethaf, a pha werthusiad sydd wedi'i wneud i weld a fu'r uno yn werth da am arian.
Gwerth am Arian – Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn
Yr oeddech hefyd wedi cynnig rhoi copi i ni o'r astudiaeth a wnaed gan Oldbell3 yr haf diwethaf i werthuso'r Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn.
Yr oeddech hefyd wedi sôn y byddech yn monitro ac yn gwerthuso dau faes arall yn y dyfodol agos, sef:
Argymhelliad 5
Byddem yn falch o gael y diweddaraf am y ddau faes hyn cyn gynted ag y bo modd.
Prosesau cyllidebol
Yn anffodus ni chawsom amser yn ystod y sesiwn graffu i ofyn i chi am arfarniadau datblygu cynaliadwy.
Argymhellion 6 a 7
Byddem yn falch o gael nodyn gennych yn egluro a ydych wedi gwneud arfarniad datblygu cynaliadwy o gyllideb eich adran fel rhan o'r broses o gynllunio'r gyllideb, ac os felly, y newidiadau a wnaed o ganlyniad i hynny.
Hefyd, hoffem gael gwybod sut y bydd adnoddau eich adran yn cael eu defnyddio i gyflawni'r ymrwymiadau datblygu cynaliadwy yn y Rhaglen Lywodraethu, a sut y caiff y canlyniadau perthnasol eu mesur.
Diolch i chi am gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith craffu, ac edrychwn ymlaen at gael eich atebion i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn cyn gynted â phosibl.
Yn gywir
Nick Ramsay AC
Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes
cc Jocelyn Davies AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid